Gweithio i Awdurdod Cyllid Cymru

Fe wnaethom greu hanes yn 2018 wrth i ni ddechrau rheoli'r trethi Cymreig cyntaf ers 800 mlynedd. Fel adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru, ni sy'n gyfrifol am y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Rydym yn angerddol am ein gwaith o godi refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru.

Grymuso'n pobl i gefnogi ein cwsmeriaid

Rydym yn sefydliad sy'n cael ei arwain gan bobl, sy’n gwerthfawrogi mai ein pobl yw ein ased mwyaf. Mae cydweithio ac arloesi’n rhan o'n DNA. Rydym wedi arloesi ffordd Gymreig o drethu, sef 'Ein Dull'. Rydym yn defnyddio'r dull hwn o weithio gyda threthdalwyr ac eraill i sicrhau bod y dreth iawn yn cael ei thalu ar yr adeg iawn. Drwy gydweithio, rydym yn helpu i ddarparu system dreth deg i Gymru.

Bob blwyddyn ers i ni gael ein ffurfio rydym wedi bod yn un o’r 3 sefydliad gorau o ran ymgysylltiad yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil. Rydym yn sefydliad ystwyth ac amlsgil, sy'n cyflogi tua 80 o bobl. Mae ein talent, ein sgiliau a'n profiad yn cynnwys 14 o broffesiynau. Mae'n timau’n cynnwys Gweithrediadau, Polisi, Digidol a Data yn ogystal ag AD, Cyfathrebu a Chyllid.

Team Member In Group Discusison

Rydym wedi ymrwymo i gynnig gweithle teg a chynhwysol lle gall pawb ffynnu a chael eu gwobrwyo, eu clywed, a'u cynrychioli. Rydym yn falch bod cynhwysiant a thegwch ymhlith y meysydd sy’n sgorio uchaf yn ein canlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil blynyddol.

Rydym yn grymuso ein pobl drwy annog perthnasoedd gweithio cadarnhaol. Ac rydym yn ffynnu pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd mewn ffordd sy'n arloesol, yn gydweithredol ac yn garedig.

Rebecca

Ymunais i ag ACC fel prentis yn 2017. Dwi'n falch o'r ffordd Gymreig o drethu rydyn ni wedi’i datblygu i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r diwylliant rydym wedi’i greu ar y cyd wedi gwneud fy ngyrfa Gwasanaeth Sifil yn gyffrous ac mae wedi rhoi ymdeimlad o gyflawniad i mi.

Rebecca SwaineArbenigwr Treth Trafodiadau Tir
Logos Achredu Awdurdod Cyllid Cymru
lightbulb

Rydym yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd Lefel 3

lightbulb

Rydym wedi codi dros £1 biliwn mewn refeniw treth i Gymru

lightbulb

Mae gennym aelod staff etholedig ar ein Bwrdd gyda'r un cyfrifoldebau ag aelodau eraill y Bwrdd.

Dyfed Alsop

Rwy'n falch o'r diwylliant cefnogol rydyn ni wedi’i ddatblygu gyda'n gilydd. Mae'n yn sylfaenol i'r ffordd rydyn ni’n rheoli treth ac o ganlyniad rydyn ni’n cynnig y gwasanaeth cwsmeriaid gorau posibl.

Dyfed AlsopPrif Weithredwr

Rydym yn cynnig lle cyfeillgar i weithio lle mae ein pobl yn ymgysylltiedig iawn, ac rydym yn cynnig diwylliant cynhwysol. Fel cyflogwr Gwasanaeth Sifil, gallwch ddisgwyl buddion ardderchog, gan gynnwys: 

  • 31 diwrnod o wyliau blynyddol, 8 gŵyl y banc, ynghyd â 2 ddiwrnod braint
  • gweithio hyblyg a hybrid
  • cynlluniau pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr hael 
  • amser ar gyfer gweithgareddau lles
  • prydlesu ceir gwyrdd
  • Beicio i’r Gwaith a thocynnau teithio tymor 
  • polisïau absenoldeb hael a chyfeillgar i’r teulu
  • arian ac amser i ddysgu Cymraeg
  • mynediad i lu o rwydweithiau staff trwy Lywodraeth Cymru

Ymunwch â ni

Rydym yn sefydliad digidol-yn-gyntaf, wedi'i alluogi gan ddata a dwyieithog. Os hoffech chi ymuno â thîm lle gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth, dysgwch fwy isod.

Two Colleagues In Conversation

Gweithio i ni

Dysgwch fwy am yrfa gyda ni. Darllenwch am ein rolau, ein cyflog a'n buddion, canlyniadau Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil, a mwy.

Land And Property In Wales

Mwy am ein sefydliad

Dysgwch fwy am ein diben, ein hamcanion strategol, a’n uchelgeisiau tymor hwy yn ein Cynllun Corfforaethol 2022 i 2025.