Rydyn ni’n gyfrifol am y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae ein gwaith yn codi refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru. Ond nid dyna’r cwbl, rydyn ni hefyd yn ymwneud â dylunio a chefnogi trethi i Gymru ar gyfer y dyfodol.
Pan fyddwch chi’n ymuno â ni, byddwch yn rhan o dîm teg a chynhwysol lle gallwch chi ffynnu, cael eich gwobrwyo a’ch clywed.
Rydyn ni wedi bod yn y 3 uchaf yn gyson am ymgysylltiad ein pobl yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil. Cynhwysiant a thegwch yw ein meysydd sgorio cryfaf – gweler ein Canlyniadau Arolwg Pobl diweddaraf.
Ac rydyn ni’n cael ein cydnabod am ein harloesedd fel sefydliad digidol ‘yn y cwmwl’ sy’n cefnogi gweithio hybrid a hyblyg sy’n galluogi cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith.
Byddwch yn ymuno â thîm o 80+ o bobl dalentog o 14 o wahanol broffesiynau. Y ffordd orau i ddisgrifio ein diwylliant fyddai arloesol, cydweithredol a charedig.
Drwy weithio gyda’n gilydd, byddwn yn darparu system dreth deg i Gymru.
Mae ein pobl yn dod o ystod eang o gefndiroedd a phrofiad. O Weithrediadau, Polisi, Digidol a Data, AD, a Chyfathrebu i Gyllid – mae lle i chi yn ein tîm cyfeillgar. Cymrwch olwg ar ein swyddi gwag.


“Y peth gorau am weithio yn ACC yw’r diwylliant cefnogol sydd wedi rhoi ymdeimlad o berthyn i mi. Rydw i wedi cael cyfleoedd gwych i helpu i siapio’r sefydliad ac mae’r rhain wedi gwneud fy ngyrfa yn y Gwasanaeth Sifil yn gyffrous ac wedi rhoi ymdeimlad i mi fy mod i wir yn cyflawni.”
Rebecca Swaine
Arbenigwr Treth Trafodiadau Tir
Sgoriodd canlyniadau ein Arolwg Pobl …
93% am gynhwysiant a thriniaeth deg (cyfartaledd y GS 81%)
79% am dâl a buddion (cyfartaledd y GS 28%)
73% am weithgareddau dysgu a datblygu sy’n helpu i wella gyrfaoedd (cyfartaledd y GS 50%)

“Does yr un dau ddiwrnod byth yr un fath yn fy rôl i ac mae hyn wedi fy helpu i ddod yn fwy hyblyg, a fydd, rwy’n gwybod, yn gwella’r cyfleoedd sydd ar gael ar fy llwybr gyrfa. Mae gweithio yn ACC wedi rhoi ystod eang o brofiadau i mi sydd wedi fy helpu i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol”
Hannah Packham-Smith
Cymorth Gweithredol y Swyddfa Breifat
Y manteision i chi
- 31 diwrnod o wyliau blynyddol + Gwyliau Banc a 2 ddiwrnod Braint
- Gweithio hyblyg a hybrid
- Cynlluniau pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr hael yn amrywio o 24 i 34%
- Amser i ffwrdd ar gyfer gweithgareddau lles
- Cynllun ceir gwyrdd
- Cynllun Beicio i’r Gwaith a thocynnau teithio tymor
- Mynediad i grwpiau chwaraeon gyda chymhorthdal
- Polisïau absenoldeb hael sy’n ystyriol i’r teulu
- Cyrsiau Cymraeg am ddim ac amser i ffwrdd i ddysgu
- Mynediad i ystod o rwydweithiau amrywiaeth staff
- Gwasanaeth cwnsela a chymorth am ddim drwy ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Angen eich argyhoeddi fwy?
Mwy am weithio i ni, ein rolau, ein tâl a’n buddion, canlyniadau’r Arolwg Pobl, a mwy…

Mwy amdanom ni
Ein pwrpas, ein hamcanion strategol, a’n uchelgeisiau tymor hwy yn ein Cynllun Corfforaethol 2022 i 2025.