Mae ein pecyn buddion cynhwysfawr wedi’i gynllunio i gefnogi eich llesiant, datblygiad eich gyrfa, aโch cydbwysedd bywyd-gwaith, gan sicrhau bod gennych yr offer, yr adnoddau a’r hyblygrwydd rydych eu hangen i lwyddo. Boed gymorth llesiant neu gyfleoedd datblygu, bydd ein buddion yn eich helpu i dyfu, i deimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, ac i wneud gwahaniaeth ystyrlon i gymunedau ledled Cymru.
Gweithio hybrid
Rydym yn falch o gynnig ffordd wirioneddol hybrid a hyblyg o weithio. Mae ein dull digidol yn gyntaf yn golygu y bydd gennych yr offer, y dechnoleg a’r ymddiriedaeth rydych eu hangen i weithio’n effeithiol โ boed hynny gartref, yn y swyddfa, neu rywle rhwng y ddau.
Byddwn yn trafod eich anghenion cyn i chi ddechrau er mwyn cytuno ar yr hyn sy’n gweithio orau i chi a’ch tรฎm, gan gydbwyso anghenion busnes รข’ch amgylchiadau personol er mwyn i chi ffynnuโn broffesiynol ac yn bersonol.โฏ
Cyfleoedd talent a datblygu
Rydym eisiau i’n gweithwyr gyrraedd eu potensial llawn, a dyna pam rydym yn cynnig ystod o wahanol gyfleoedd o fewn ACC yn ogystal รข mynediad at gyfleoedd ar draws y Gwasanaeth Sifil.โฏ
Tysteb gan Leanne, ein Dadansoddwr Busnes
“Un o’r manteision mawr am weithio gydag ACC yw nifer y diwrnodau gwirfoddoli y maen nhw’n eu cynnig. Mae ACC yn cynnig 5 diwrnod y flwyddyn i wirfoddoli. Mae hyn yn wych oherwydd gallwn ni gyfrannu at rywbeth syโn golygu rhywbeth i ni, rhywbeth rydyn ni’n angerddol amdano.”
Ein buddion
Ein hadran ni ddaeth iโr brig o ran cyflog a buddion y Gwasanaeth Sifil (Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil, 2024).โฏRydym yn cynnig buddion gweithwyr rhagorol sy’n ein gosod ar wahรขn iโr gweddill.
Mae ein buddion yn cynnwys:โฏ
- 41 diwrnod o wyliau (gan gynnwys dyddiau braint a gwyliau cyhoeddus)โฏโฏ
- gweithio hybrid a hyblygโฏโฏ
- cyflog gwych a dilyniant cyflog blynyddolโฏโฏ
- cynllun cyfraniadau pensiwn cyflogwr hael o 28.97%โฏ
- cynlluniau prynu ceir a beiciauโฏโฏ
- campfa ar y safle (Caerdydd)โฏ
- buddion ffordd o fyw, gan gynnwys gostyngiadau ac arian yn รดl pan fyddwch yn prynu gan y rhan fwyaf o gwmnรฏauโr stryd fawrโฏ
- cyrsiau Cymraeg am ddim gydag amser i ddysguโฏโฏ
- polisรฏau gwyliau addas i deuluoedd haelโฏโฏ
- ystod o rwydweithiau amrywiaeth staffโฏโฏ
Rydym hefyd yn cynnig:โฏ
- rhaglen Cymorth i Weithwyr โ gwasanaeth cyfrinachol am ddim sy’n cynnig gwybodaeth a chwnsela i helpu gydag ystod o faterion gwaith, teuluol a phersonolโฏ
- cefnogaeth ar gyfer gwirfoddoli a gweithgareddau elusennol, gan gynnwys amser oโr gwaithโฏ
