Cymru

Byddwch yn llais i Gymru yn nes at adref

“Os ydych yn breswylydd uchelgeisiol o Gymru sy’n chwilio am yr her nesaf ac eisiau swydd lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl, a chymunedau lleol, yna dechreuwch eich gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil.”

Glynne Jones

Cyfarwyddwr, Swyddfa Cymru

Diwydiant, ynni, yr amgylchedd, gofal cymdeithasol a diwylliant – mae Gwasanaeth Sifil y Deyrnas Unedig yn dylanwadu ar hyn i gyd a mwy. Nawr rydym yn dod â rolau uwch y Gwasanaeth Sifil i leoliadau ar draws Cymru. Defnyddiwch eich talent a phrofiad i drawsnewid y cymunedau rydych chi’n rhan ohonynt.

Dylanwadwch ar sut mae’r Deyrnas Unedig yn cael ei llywodraethu. Adeiladwch yrfa gyda dyfodol i bawb.

Ymunwch â ni a byddwch nid yn unig yn helpu llunio polisi yn nes at adref, ond hefyd yn cael effaith bositif yn genedlaethol.

Byddwn yn ymroddedig i’ch twf a’ch datblygiad yn gyfnewid. Byddwn yn cynnig cyfleoedd i symud eich gyrfa ymlaen ac i ehangu eich profiad mewn ffyrdd y mae’n anodd i sefydliadau eraill gynnig. Rydym yma i gefnogi ein pobl oherwydd eu bod yn cefnogi’r genedl.

Show video transcript
  • 00:07 [Huw Bryer, Dirprwy Gyfarwyddwr, Uned Dinasoedd a Thwf Lleol Cymru, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol] Mae Places for Growth i mi yn golygu sicrhau bod y Gwasanaeth Sifil wir yn denu’r dalent orau ond yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n golygu ei fod wedi ei leoli tu allan i San Steffan a Llundain. Felly, yn ogystal â’r lleoliad tu allan i Lundain ac yn rhoi cyfle ar gyfer gyrfa i mi’n bersonol, dwi’n teimlo bod yna gysylltiad gwirioneddol i’r gwaith dwi’n ei wneud yma oherwydd bod Cymru o bwys i mi ac mae’r cymunedau dwi’n gweithio gyda nhw o bwys i mi a’r partneriaid dwi’n gweithio ar y cyd â nhw i gyflawni rhai o’r amcanion hyn.
  • 00:39 [Gemma Nesbitt, Arweinydd Sector, Bwyd a Diod, Yr Adran Masnach Ryngwlado] Dwi’n meddwl ei fod yn newyddion arbennig i’r Gwasanaeth Sifil bod y rhaglen Places for Growth yma ar waith. Mae wir yn ehanhu’r rhwyd o ran y gronfa o dalent y gellir ei denu ac mae’n sicrhau bod y bobl sydd mewn cymunedau amrywiol, mewn ardaloedd mwy amddifad, yn cael mynediad i’r un cyfleoedd a’r rhai sy’n byw mewn dinasoedd mwy ac yn Llundain.
  • 1:03 [Darren Morgan, Cyfarwyddwr, Ystadegau Economaidd a Dadansoddi Cynhyrchu, Swyddfa Ystadegau Gwladol] Felly y syniad wrth wraidd Places for Growth a chodi’r gwastad y peth allweddol i mi yw cyfle cyfartal, waeth ble ydych chi’n byw yn y wlad. Sicrhau bod pawb yn y wlad yn cael yr yn cyfle cyfartal, ac eto a gwella amrywiaeth llais a chynhwysedd.
  • 1:19 [Huw] Mae’n newyddion gwych ar gyfer u Gwasanaeth Sifil bod yna ystod ehangach o rôl ar gael yma yng Nghrmru. Mae’n golygu y gallwn ni ddod â’r dalent orau i mewn sydd ar gael yng Nghymru, i mewn i swyddi’r Gwasanaeth Sifil gyda phobl sydd â dealltwriaeth a gwybodaeth gwirioneddol, ac angerdd tuag at Gymru. Felly mar wir yn gyfle mawr ar gyfer Gwasanaeth Sifil i gryfhau ei amrywiaeth, ei ehangder yn nhermau profiadau byw a’r bobl a ddaw i mewn i’r Gwasanaeth Sifil, a dwi’n meddwl bod hynny’n sicr o fod yn beth da.
  • 1:50 [Gemma] I mi mae Places for Growth yn golygu sicrhau ein bod ar lawr gwlad yn y cymunedau ei bod yn gwasanaethu ac yn sicrhau bod gweithwyr yn dod o gefndiroedd amrywiol hefyd, felly’n dod o’r cymunedau hynny rydyn ni’n gwasanaethu.
  • 2:04 [Justin Placide, Cyd-gadeirydd, Fforwm Hil y Gwasanaeth Sifil, yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol] Trwy ddod â phobl i mewn o wahanol ranbarthau, o wahanol gefndiroedd i gael y dylanwad gwirioneddol hwnnw i lunio polisi go iawn, polisi fydd yn welliant i bawb gobeithio yn y DU felly p’un a hynny fath o gaer ranbarthol, os yw hynny’n fath o gaer gweinyddiaeth ddatganoledig hefyd ceisio cysylltu hyn i Codi’r Gwastad i gwd-fynd â Places for Growth.
  • 2:28 [Huw] Felly mae’n bwysig nid dim ond o safbwynt lleoliad ond o safbwynt cyfraniad hefyd a’r profiad bywyd yna maent yn ei gynnig hefyd.
  • 2:36 [Gemma] Mae’r rhaglen Places for Growth yn newyddion gwych i Gymru fel gwlad oherwydd nawr mae’n golygu y bydd yna bobl wedi eu lleoli yng Nghymru, fydd yn cynrychioli eich buddiannau a buddiannau busnes ein dinasyddion yng Nghymru yng nghalon llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Talent Cymreig – Cyfleoedd gyrfa yn agosach at adref

Cynnig Gyrfa’r Gwasanaeth Sifil

Pan fyddwch chi’n cychwyn eich gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil, byddwch yn ymuno â thîm cynhwysol, gyda chyfleoedd cyffrous i helpu llunio beth sy’n digwydd mewn cymdeithas.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae gweision sifil wedi gweithio ar feysydd sydd wedi cael effaith fawr ar ddinasyddion, gan gynnwys yr ymateb i COVID-19, ymadael â’r UE a masnach ryngwladol, seiberddiogelwch a’r economi i enwi ambell un.

Mae Gwasanaeth Sifil y DU yn cynnig sawl llwybr gwahanol i ymgeiswyr posibl ymuno â’n sefydliad, gan gynnwys Ffrwd Gyflym y Gwasanaeth Sifil a Phrentisiaethau’r Gwasanaeth Sifil.

Cymerwch olwg, a gweld a oes unrhyw un yn addas i chi.

Traphont Ddŵr Pontcysyllte

Dysgwch fwy am y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru

Tair dinas fawr Cymru yw’r brifddinas, Caerdydd (447,287), Casnewydd (306,844) ac Abertawe (300,352). Y trefi mawr yn ôl poblogaeth yw Tonypandy, Pen-y-bont ar Ogwr a’r Barri.

Mae’r Adran dros Fasnach Ryngwladol wedi dewis Caerdydd fel canolfan ranbarthol. Yn ogystal â denu hyd at 100 o swyddi, bydd y lleoliad yn cefnogi cwmnïau yng Nghymru wrth dyfu allforion a denu buddsoddiad mewnol. 

The Millenium Centre in Cardiff.